A Festival of
Welsh Music in London

Mae’n bleser mawr gan Corâl Cymry Llundain a Edward-Rhys Harry gyhoeddi
Gŵyl Cerddoriaeth Gymreig Llundain

16eg - 17eg  Chwefror, 2024. 

Cynhelir yr Ŵyl ar benwythnos yr 16eg a’r 17eg Chwefror 2024.

Nos Wener 16 Chwefror, bydd côrau gwadd o Gymru ac o Loegr yn cyflwyno cyngerdd o eitemau repertoire yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain. Bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys Rownd Derfynol cystadleuaeth ‘Canwr Ifanc Cymreig Llundain’, wedi’i chydblethu â’r perfformiadau corawl.

Nos Sadwrn 17 Chwefror, bydd yr Ŵyl yn cynnal Cyngerdd Gala yn Regent Hall, 275 Oxford Street, W1C 2DJ. Bydd pedwar côr gwadd yn ymuno â Corâl Cymry Llundain i berfformio rhaglen gyffrous o gerddoriaeth, gan gynnwys cyfansoddiad gan Edward-Rhys Harry, 'Gweddi' gan Arwel Hughes a arweinir gan Owain Arwel Hughes, a ‘The Shadows of War’ Paul Mealor a arweinir gan y cyfansoddwr ei hun. Daw’r cyngerdd i ben gyda ‘Symphonic Adiemus’ Karl Jenkins a genir gan y pum côr yng nghwmni Sir Karl Jenkins ar ei benblwydd yn 80 oed.

The London Welsh Chorale and Edward Rhys Harry are delighted to announce the
Festival of Welsh Music in London

16th - 17th February, 2024. 

The Festival will take place on the weekend of the 16th and 17th February 2024. 

On Friday 16th February, guest choirs from Wales and England will give a concert of repertoire items, to be held at the Welsh Church of Central London. The concert will also feature the Grand Final of the ‘London Welsh Young Singer’ competition, interwoven with the choral performances.

On Saturday evening, 17 February, the Festival will hold a Gala Concert at Regent Hall, 275 Oxford Street, W1C 2DJ. Four guest choirs will join the London Welsh Chorale to perform an exciting program of music, including a composition by Edward-Rhys Harry, 'Gweddi' by Arwel Hughes conducted by Owain Arwel Hughes, and 'The Shadows of War' conducted by Paul Mealor by the composer himself. The concert ends with Karl Jenkins' 'Symphonic Adiemus' sung by the five choirs in the company of Sir Karl Jenkins on his 80th birthday.

Beth yw e?

Bydd Gŵyl Cerddoriath Gymreig Llundain yn dathlu traddodiad hir cyfansoddi cerddoriaeth ym mhrifddinas Lloegr gan y rheiny sydd â chysylltiad â Chymru, yn ystod penwythnos flynyddol gyffrous o gyngherddau a chystadlaethau.Syniad gweledigaethol Edward-Rhys Harry, cyfarwyddwr cerddorol Corâl Cymry Llundain yw’r Ŵyl. O’r herwydd, caiff yr Ŵyl ei chynnal a’i churadu gan dîm ymroddedig o aelodau Corâl Cymry Llundain gyda’r Dr Harry fel Cyfarwyddwr Artistig. 

Amcanion yr Ŵyl yw:


What is it?

The Festival of Welsh Music in London celebrates the long tradition of music making in the capital of England by those who have a connection to Wales in an exciting annual weekend of concerts and competitions.

The vision for the festival was the brainchild of Edward-Rhys Harry, musical director of the London Welsh Chorale. The result of which is that the festival is hosted and curated by a committed team of members from The London Welsh Chorale with Dr Harry as Artistic Director.

The aims of the festival are:

Cantorion newydd...

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o'r cyngerdd gwych hwn yna ymunwch â ni pan fyddwn yn dechrau ymarferion ar ddydd Mawrth 5ed Medi. Does dim clyweliadau ac rydym yn croesawu cantorion o bob rhan o’r byd sydd â chlust dda a brwdfrydedd dros gorawl glasurol a cherddoriaeth â threftadaeth Gymreig.

Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan www.londonwelshchorale.org.uk

New singers....

If you want to be part of this fantastic concert then join us when we begin rehearsals on Tuesday 5th September. There are no auditions and we welcome singers from all around the world who have a good ear and enthusiasm for classical choral and music with a Welsh heritage. 

For more information visit our website www.londonwelshchorale.org.uk