Cerddor Ifanc Cymreig

Cystadleuaeth Canwr Ifanc Cymreig Llundain

16 CHWEFROR 2024
Eglwys Gymraeg Canol Llundain
Eastcastle Street, W1W 8DJ

Cystadleuaeth i gantorion clasurol Cymreig rhwng 20 a 30 oed.

Mae’n bleser gan Ŵyl Cerddoriaeth Gymreig Llundain gyflwyno dychweliad Cystadleuaeth Canwr Ifanc Cymreig y Flwyddyn Llundain.

Fel rhan o nod yr ŵyl i feithrin artistiaid unigol y dyfodol, hoffem wahodd cantorion rhwng 20 a 30 oed, sydd hefo cysylltiad â Chymru, i gymryd rhan yn y gystadleuaeth ar 16 Chwefror 2024.

Mae’r gystadleuaeth yn cynnwys dwy ran: Rhagbrofion a Rownd Derfynol.

Rhagbrofion

Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i berfformio tri darn o gerddoriaeth yn y rhagbrawf. Bydd y beirniaid yn dewis tri ymgeisydd i fynd ymlaen i’r rownd derfynol.

Cynhelir y rhagbrofion yn ystod dydd Gwener 16 Chwefror yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain, Eastcastle Street.

Rownd Derfynol

Gwahoddir y tri ymgeisydd llwyddiannus i berfformio dau ddarn o gerddoriaeth yn ystod cyngerdd Noson y Corau, rhan o Wŷl Cerddoriaeth Gymreig Llundain, lle bydd yr enillwyr yn cael eu dewis. Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl yma: https://www.londonwelshchorale.org.uk/fwmil.

Cynhelir y rownd derfynol a cyngerdd Noson y Corau am 7 pm nos Wener 16 Chwefror yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain, Eastcastle Street.

Gwobrau

Bydd pedair gwobr yn cael eu dyfarnu yn ystod y cyngerdd: gwobr 1af hyd at £1500 ynghyd â 2il a 3ydd wobr a gwobr y gynulleidfa.

Beirniaid

Y beirniaid fydd Dame Ann Evans, Paul Mealor ac Owain Arwel Hughes.

I ymgeisio... 

... cwblhewch y ffuflen gais yma:  https://forms.gle/DrNkmEbbufK9At1Q9

Os ydych chi'n cael trafferth cyrchu'r ffurflen ar-lein, gallwch lawrlwytho'r fersiwn Word doc hwn a'i e-bostio ynghyd â'ch CV canu a recordiad sampl i:  lwyoungsinger@btinternet.com 

Gallwch ddod o hyd i amodau’r gystadleuaeth yma: Amodau.  Am ragor o wybodaeth, gallwch gysylltu â ni yn: lwyoungsinger@btinternet.com