Offerynnwr Ifanc Cymreig Llundain
Offerynnwr Ifanc Cymreig Llundain
Cystadleuaeth i offerynwyr clasurol Cymreig rhwng 20 a 30 oed.
Eglwys Gymraeg Canol Llundain
Eastcastle Street, W1W 8DJ
Mae’n bleser gan Ŵyl Cerddoriaeth Gymreig Llundain gyflwyno Cystadleuaeth Offerynnwr Ifanc Cymreig Llundain.
Fel rhan o nod yr ŵyl i feithrin artistiaid unigol y dyfodol, hoffem wahodd offerynwyr rhwng 20 a 30 oed, sydd hefo cysylltiad â Chymru, i gymryd rhan yn y gystadleuaeth newydd yma ar 16 Mai 2025.
Mae’r gystadleuaeth yn cynnwys dwy ran: Rhagbrofion a Rownd Derfynol.
Rhagbrofion
Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i berfformio tri darn o gerddoriaeth yn y rhagbrawf. Bydd y beirniaid yn dewis hyd at bump ymgeisydd i fynd ymlaen i’r rownd derfynol.
Cynhelir y rhagbrofion yn ystod dydd Gwener 16 Mai yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain, Eastcastle Street.
Rownd Derfynol
Gwahoddir yr ymgeiswyr llwyddiannus i berfformio dau ddarn o gerddoriaeth yn ystod cyngerdd Noson y Corau, rhan o Wŷl Cerddoriaeth Gymreig Llundain, lle bydd yr enillwyr yn cael eu dewis. Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl yma.
Cynhelir y rownd derfynol a cyngerdd Noson y Corau am 7pm nos Wener 16 Mai yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain, Eastcastle Street.
Gwobrau
Bydd pedair gwobr yn cael eu dyfarnu yn ystod y cyngerdd: gwobr 1af hyd at £1500 ynghyd â 2il a 3ydd wobr a gwobr y gynulleidfa.
Beirniaid
Y beirniaid fydd Owain Arwel Hughes CBE, Dr. Rhiannon Mathias a Meurig Bowen.
I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma.
Pris mynediad - £20.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - 1 Ebrill 2025
Gallwch ddod o hyd i amodau’r gystadleuaeth yma.
Os ydych yn cael trafferth agor y ffurflen ar lein, gallwch lawrlwytho fersiwn ‘Word’ yma. a’i ebostio ynghyd â’ch CV perfformio a recordiad sampl i: lwyinstru@gmail.com
Am fwy of fanylion, cysylltwch â ni yma: lwyinstru@gmail.com